Mae hon yn swydd allweddol i’r ysgol gan y bydd deiliad y swydd yn ganolog i yrru gwelliant, codi safonau addysgu a dysgu yn ogystal â chefnogi’r Bwrdd Llywodraethu i osod cyfeiriad strategol yr ysgol 3-19 newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â’r her gyffrous o gynllunio’n strategol a nodi disgwyliadau ar gyfer dysgu ac addysgu ar draws yr ystod oedran 3-19 tra hefyd yn sefydlu adran gynradd ein hysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cydweithio gyda’r UDRh ehangach ar gynllunio cwricwlwm addas ar draws yr ystod oedran gyfan o 3-19. Gan weithio gyda’r Uwch Dîm Rheoli, byddwch yn arwain nid yn unig ar y meysydd penodol hyn ond hefyd yn ehangach ar hyrwyddo diwylliant o lwyddiant, safonau, lles a Chymreictod o’r Dosbarth Derbyn i flwyddyn 13.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n ofynnol i barhau i wella a chyflawni’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Datblygu Ysgol a’n Cynllun Ôl-Arolygiad. Mae hwn yn gyfle gwych i arweinydd ysbrydoledig ac uchelgeisiol, y mae’r her o drawsnewid y weledigaeth ar gyfer yr ysgol a darparu addysg ragorol, yn ei gyffroi/chyffroi.
Datblygu’r addysgu yw un o brif flaenoriaethau’r ysgol, a strategaeth a fydd yn cwmpasu’r ysgol 3-19. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn parhau i ddatblygu’r cynnig i staff ddatblygu’n broffesiynol, a gweithio gyda’n UDRh i wireddu’r weledigaeth, sef gweithlu proffesiynol, effeithiol ar draws yr ysgol gyfan.
Mae cynllunio’r cyfnod cynradd newydd hefyd yn allweddol, a bydd cydweithio gydag athrawon, y Corff Llywodraethu a’r ALl i wireddu agor y cyfnod cynradd yn 2022 yn gosod sylfeini cadarn yn natblygiad cyffrous yr ysgol.
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol sy’n hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru ac mae’n ymfalchïo yn ei llwyddiant i fagu siaradwyr Cymraeg rhugl. Felly, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus, ynghyd â holl staff yr ysgol, rannu a hyrwyddo’r weledigaeth hon.